Mae’r mezzo-soprano Beca Davies yn artist sy’n canu a chreu opera a chân. Enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Cerddoriaeth o King’s College London a gradd meistr mewn llais o’r Royal Conservatoire of Scotland. Bu’n Artist Cyswllt gydag Opera Cenedlaethol Cymru 2023-24.

Yn ystod ei chyfnod gydag Opera Cenedlaethol Cymru 23/24, perfformiodd Beca rannau’r Beggar Woman Death in Venice, Yr Ail Conversa Suor Angelica a Nina Ainadamar. Ymunodd â cherddorfa’r cwmni fel unawdydd ar gyfer cyfres o gyngherddau A New Year’s Celebration, Cyngherddau Ysgolion, a Chwarae Opera’n FYW. Perfformiodd fel Carmen yng ngweithdy perfformio ‘Carmen: Dewch i ganu’ ar gyfer Gŵyl y Gelli Gandryll, a channodd hefyd mewn datganiadau yn Eglwys Gadeiriol Birmingham a Thŷ’r Arglwyddi, San Steffan, lle y cafodd ei threfniannau ei hun o ganeuon gwerin Cymraeg eu defnyddio.

Yn ogystal â’i gwaith canu, mae Beca yn awdur brwd ac yn wneuthurwr theatr. Ar hyn o bryd mae hi’n creu opera Gymraeg gyda’r gyfansoddwraig, Sarah Lianne Lewis, mewn cydweithrediad â Ty Cerdd a Music Theatre Wales fel rhan o’u cynllun CoDi 2024/25.

Ymhlith y digwyddiadau sydd i ddod mae: Chwarae Opera'n FYW (Opera Cenedlaethol Cymru), Hamlet (Gŵyl Ryngwladol Buxton) a Shorts: Inevitable gan Carmel Smickersgill a Josh Overton (Gŵyl Ryngwladol Buxton).

Am Beca