Mae Beca Davies, un o Artistiaid Cyswllt 23/24 Opera Cenedlaethol Cymru, yn fezzo-soprano o Orllewin Cymru.

Gwnaeth Beca ei hymddangosiad cyntaf gydag OCC fel un o'r Niñas yn Ainadamar gan Goljov, cyn parhau gyda’r cwmni i ganu Beggar Woman yn Death in Venice a Conversa Seconda yn Suor Angelica. Hi oedd yr unawdydd mezzo-soprano ar gyfer Cyngherddau Fiennaidd OCC, Cyngherddau Ysgol OCC, a'u gweithdy perfformio Carmen: Dewch i Ganu ar gyfer Gŵyl y Gelli. Rhoddodd ddatganiadau yn ystod y flwyddyn lle perfformiwyd ei threfniadau ei hun o ganeuon gwerin Cymreig. Flwyddyn nesaf, bydd Beca yn dychwelyd i OCC fel yr unawdydd mezzo-soprano yn Chwarae Opera yn FYW! 2026 ac fel Branwen (cover) yn Blaze of Glory.

Mae Beca wedi creu sawl rôl ar gyfer operau newydd gan yn cynnwys A yn Inevitable gan Carmel Smickersgill a Josh Overton ar gyfer Gŵyl Ryngwladol Buxton, Fflei yn Bwci Be?! gan Claire Victoria Roberts a Gwyneth Glyn/Patrick Young, Meinir yn Cyfrinach y Brenin gan Mared Emlyn - y ddwy rôl ar gyfer Opra Cymru, y brif ran yn Helena gan Marco Glavani yn y Cockpit Theatre, Llundain, a Miss Bourne/Julia yn The Ghost Train ar gyfer Gŵyl Ryngwladol St Magnus.

Roedd Beca yn libretydd ar gyfer opera feicro newydd o'r enw G_ _ _ _ _ _ ochr yn ochr â'r gyfansoddwraig Sarah Lianne Lewis ar gyfer cynllun CoDi 24/25 Tŷ Cerdd / Music Theatre Wales. Ysgrifennodd sgript hefyd ar gyfer The Secret City, darn naratif-trwy-gerddoriaeth ar gyfer cyngerdd diwrnod teuluol Cerddorfa Siambr Brixton yng Nghanolfan Addysg Melin Wynt Brixton.

Astudiodd Beca yn y Royal Conservatoire of Scotland a King’s College London, lle enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Cerddoriaeth.